Neidio at y cynnwys

S4C

Cwynion

Trefn Cwynion

Rhagair

Corff statudol yw Awdurdod S4C - corff cyhoeddus sydd ganddo ddyletswyddau penodol ac sydd yn atebol i Senedd San Steffan am ddefnyddio arian cyhoeddus. Caiff aelodau'r Awdurdod eu penodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Yn gyson â'n polisi o berthynas hyd braich rhwng yr Awdurdod a'r Sianel, mae'n Côd Ymarfer ar Gwynion newydd bellach yn dod ag unrhyw a phob cwyn o dan reolaeth yr Awdurdod (yn hytrach na'r Prif Weithredwr).

Yn unol â'i ddyletswyddau statudol a'r egwyddorion ar reolaeth corfforaethol da, mae'r Awdurdod yn anelu at weithredu mewn ffordd sydd yn atebol a thryloyw o ran popeth y mae'n gwneud ac yn bwriadu trin cwynion mewn ffordd deg a chyson.

Nôl i frig y dudalen

Cyflwyniad

Mae’ch adborth chi, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol, yn bwysig i ni. Mae’ch cwynion chi yn ein helpu i ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl.

Mae'n Côd Ymarfer ar Gwynion yn pennu sut fyddwn yn delio â chwynion a dderbynnir ar ôl Ebrill 2006.

Bydd y wefan yma yn adrodd ynghylch cyfanswm ac ystod y cwynion a dderbyniwyd ym mhob chwarter ers Ebrill 2006 a, phan fo hynny'n briodol, ein hymateb a'r manylion ynghylch unrhyw eglurhad, cywiriadau a chamau a gymerwyd i ddatrys y sefyllfa. Gweler yr Adroddiadau Adolygu Cwynion os gwelwch yn dda.

Nôl i frig y dudalen

Sut y gallaf gwyno i S4C?

Gallwch (yn Gymraeg neu'n Saesneg):

Mae'r gwasanaeth hwn ar gael 7 niwrnod yr wythnos rhwng 09:00 a 22:00 o'r gloch. Cynigir gwasanaeth peiriant ateb y tu allan i'r oriau hyn a phan fydd y llinellau'n brysur;

Nôl i frig y dudalen

A fyddaf yn cael ymateb?

Byddwn yn ymateb i bob cwyn oni bai eich bod wedi nodi nad ydych yn dymuno cael ymateb.

Yn arferol, byddwn ond yn ystyried cwynion a wneir o fewn cyfnod rhesymol. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwn ond yn ystyried cwynion a wneir o fewn 90 diwrnod ar ôl y darllediad perthnasol. Nid yw'r hyn sy'n dilyn yn berthnasol os ydym yn penderfynu peidio ag ystyried cwyn oherwydd ei fod wedi ei wneud yn rhy hwyr.

Nôl i frig y dudalen

Sut y byddwch yn ymateb?

Yn gyffredinol, byddwn yn ymateb i gwynion yn y cyfrwng y cawsant eu gwneud.

Nôl i frig y dudalen

Pryd fyddwch yn ymateb?

Nod Awdurdod S4C yw cydnabod derbyn eich cwyn o fewn 5 diwrnod gwaith. Ar yr un pryd, byddwn yn cadarnhau pryd y byddwn yn debygol o allu ymateb i gynnwys eich cwyn.

Nôl i frig y dudalen

Pwy fydd yn ystyried fy nghwyn ac yn ymateb iddi?

Ein nod yw sicrhau bod yr holl gwynion a dderbynnir gennym yn cael eu trin yn yr un ffordd (heblaw pan fo cwyn yn ymwneud â mater o gydymffurfiaeth rhaglenni, lle y bydd y gŵyn yn dilyn y weithdrefn fanwl a nodir yn Nhrefn Cwynion Cydymffurfiaeth Rhaglenni S4C). O ganlyniad, os byddwch yn dewis cwyno mewn ffordd arall ac eithrio'r ffyrdd a nodir uchod, bydd eich cwyn (onibai ei bod yn ymwneud â mater cydymffurfiaeth) yn dal i gael ei thrin yn y ffordd ganlynol.

Ar y dechrau, bydd naill ai aelod o staff Gwifren Gwylwyr S4C neu, pan fydd Ysgrifennydd Awdurdod S4C o'r farn bod eich cwyn yn fwy difrifol, yr unigolyn priodol yn S4C a bennir gan Ysgrifennydd Awdurdod S4C, yn ymateb i'ch cwyn.

Fodd bynnag, os yw'ch cwyn yn ymwneud â rhaglen a ddarparwyd i S4C gan y BBC, byddwn yn ymdrin â'ch cwyn fel y nodir yn Nhrefn Cwynion Cydymffurfiaeth Rhaglenni S4C, ond hefyd yn cyfeirio'ch cwyn i'r BBC er mwyn i'r BBC ymateb iddi. Yna, bydd y BBC yn delio â'ch cwyn dan weithdrefn cwynion y BBC.

Yn ogystal â chael ei hystyried gan yr unigolyn sy'n ymateb ar ran S4C, bydd staff allweddol ar draws S4C ac Awdurdod S4C yn derbyn manylion eich cwyn ynghyd â'r ymateb a roddwyd iddi. Cofnodir yr holl gwynion a wneir i Wifren Gwylwyr S4C.

Dosberthir adroddiadau dros nos i aelodau penodol o staff S4C. Darperir adroddiad wythnosol o'r holl gwynion i Ysgrifennydd Awdurdod S4C a'r adrannau perthnasol (gan gynnwys Tîm Rheoli S4C).

Bydd Ysgrifennydd Awdurdod S4C yn paratoi adroddiad misol o'r holl gwynion a dderbyniwyd gan S4C yn ystod y mis blaenorol, ar gyfer Awdurdod S4C.

Bydd Ysgrifennydd Awdurdod S4C yn paratoi adolygiad blynyddol o'r cwynion a dderbyniwyd a'r gweithdrefnau cwyno yn ystod y flwyddyn flaenorol i'w ystyried gan Bwyllgor Cwynion a Chydymffurfiaeth Awdurdod S4C.

Nôl i frig y dudalen

Beth os na fyddaf yn fodlon â'ch ymateb?

Os na fyddwch yn fodlon â'r ymateb gan aelod o staff Gwifren Gwylwyr S4C neu gan yr unigolyn yn S4C a enwebwyd gan Ysgrifennydd Awdurdod S4C i roi ymateb i chi, gallwch ysgrifennu at Ysgrifennydd Awdurdod S4C o fewn tair wythnos i dderbyn yr ymateb.

Pan fyddwch wedi cyfeirio cwyn at Ysgrifennydd Awdurdod S4C, bydd yn:

Nôl i frig y dudalen

Sut fydd cywiriadau ac ymddiheuriadau yn cael eu cyhoeddi?

Pan fyddwn wedi gwneud camgymeriad neu pan fyddwn ar fai fel arall, byddwn yn ymddiheuro i chi ac yn cymryd camau i atal yr un peth rhag digwydd eto. Pan fo hynny'n briodol, byddwn hefyd yn cyhoeddi cywiriad neu ymddiheuriad ar y wefan yma.

Nôl i frig y dudalen

A oes modd i mi apelio yn erbyn ymateb/penderfyniad Ysgrifennydd Awdurdod S4C?

Os nad ydych yn fodlon ag ymateb Ysgrifennydd Awdurdod S4C, gallwch apelio cyn pen tri mis i Bwyllgor Cwynion a Chydymffurfiaeth Awdurdod S4C.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried eich cwyn wreiddiol, ymateb S4C ac unrhyw sylwadau a wnaethpwyd gennych ar ymateb S4C yn eich apêl, gan benderfynu a oes cyfiawnhad i'ch cwyn ai peidio.

Os codir unrhyw faterion newydd yn eich apêl, gall y Pwyllgor, os yw o'r farn bod hynny'n briodol, estyn gwahoddiad i S4C ymateb iddynt yn ffurfiol ar bapur ac, mewn achos o'r fath, byddwch yn cael copi o ymateb ysgrifenedig S4C.

Bydd y Pwyllgor yn eich hysbysu o'i benderfyniad ar eich cwyn.

Os bydd y Pwyllgor yn cytuno â'ch apêl, bydd yn disgwyl i reolwyr S4C gymryd ystyriaeth o'i ddyfarniadau a gall gyfarwyddo rheolwyr S4C i gymryd camau megis cyhoeddi ymddiheuriad neu gywiriad pan fo hynny'n briodol. Nodir y penderfyniad yn yr adroddiad blynyddol ar gwynion.

Nôl i frig y dudalen

A oes modd i mi gwyno i gorff allanol?

Oes.

  1. O ran cwynion parthed cydymffurfiaeth rhaglenni S4C a chodau priodol Ofcom neu nawdd ar S4C neu o ran cwotâu Ofcom, gallwch ysgrifennu at Ofcom yn uniongyrchol: Ofcom, Riverside House, 2a Southwark Bridge Road, Llundain SE1 9HA (www.ofcom.org.uk) (ac eithrio mewn perthynas ag adrannau 6.8 i 6.13 o Gôd Darlledu Ofcom sy'n ymwneud â refferenda ac etholiadau).

  2. O ran hysbysebion neu ddeunydd hyrwyddo a ddarlledir ar S4C, gallwch gwyno i'r ASA: Advertising Standards Authority, Mid City Place, 71 High Holborn, Llundain WC1V 6QT (www.asa.org.uk).

  3. Os yw'ch cwyn yn ymwneud â diogelu data neu faterion sy'n gysylltiedig â rhyddid gwybodaeth, gallwch gwyno i'r Comisiynydd Gwybodaeth: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane,Wilmslow, Cheshire SK9 5AF (www.informationcommissioner.gov.uk).

Nôl i frig y dudalen

Adolygu'r Cod

Bydd Awdurdod S4C yn adolygu'r Cod hwn yn flynyddol.

Nôl i frig y dudalen

Adborth

Croesawn adborth am wefan S4C a'r Côd Ymarfer ar gwynion ac ar ein gweithdrefnau cwyno. Gallwch gyfleu eich sylwadau gan ddefnyddio'r adran 'Cysylltu â Ni' ar y wefan neu drwy gyfrwng unrhyw un o'r dulliau cysylltu a nodir uchod dan 'Sut y gallaf gwyno i S4C?'

Nôl i frig y dudalen

Nodyn pwysig ynghylch data personol

Os ydych yn cwyno, gall S4C drosglwyddo'ch manylion, pan fo hynny'n briodol, at ddibenion ymdrin â'ch cwyn.

Nôl i frig y dudalen

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales